Penwythnos Lleisiau Llambed 31 Hydref - 1 Tachwedd 2026 Pris £175 Blaendal

Penwythnos Lleisiau Llambed 31 Hydref - 1 Tachwedd 2026 Pris £175 Blaendal

Regular price
£75.00
Sale price
£75.00
Regular price
Sold out
Unit price
per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

LLEISIAU CYMRU – BLAS AR LEISIAU LLAMBED

Beth yw Lleisiau Llambed?

Hoffem fanteisio ar statws newydd Garth Newydd fel Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) a'i ddefnyddio fel cartref i brosiect cymunedol newydd, Lleisiau Llambed.

Nod y prosiect yw casglu enghreifftiau o acenion a thafodieithoedd Llambed a'r cylch, ynghyd â recordio hanesion, atgofion a straeon pobl sydd wedi byw neu gael eu magu yn yr ardal.

Yn ogystal â sefydlu fframwaith ar gyfer prosiect parhaol a fydd yn cryfhau rôl gymunedol Garth Newydd yn y dref, ein huchelgais hirdymor yw sbarduno prosiectau tebyg mewn cymunedau ledled Cymru.

Byddwn yn dechrau drwy:

  • greu cyfle i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf recordio darlun byw o Lambed y gorffennol a Llambed heddiw;
  • rhoi cyfle i siaradwyr newydd a siaradwyr rhugl sydd wedi dysgu'r Gymraeg fel oedolion gydweithio â siaradwyr iaith gyntaf; ac
  • adeiladu tîm fydd yn gallu datblygu a llywio'r prosiect yn y dyfodol.

Beth yw pwrpas penwythnos Blas ar Leisiau Llambed?

Pwrpas y penwythnos cyntaf yw profi'r syniad a gweld sut y gallai'r prosiect ddatblygu.

Rydym yn chwilio am chwech o oedolion sydd wedi dysgu'r Gymraeg fel ail iaith ac sydd bellach yn rhugl, i ymgymryd â rolau megis:

  • Cyfwelwyr
  • Ymchwilwyr
  • Golygwyr sgript
  • Golygwyr fideo
  • Gweithredwyr camera

Rydym hefyd yn chwilio am 8–12 o drigolion lleol fyddai'n fodlon cael eu cyfweld o flaen camera a pheiriant recordio am tua awr, gan rannu eu hatgofion, eu straeon a'u profiadau o fywyd yn Llambed.

Beth fydd yn digwydd i'r recordiadau?

Os bydd y penwythnos peilot yn llwyddiannus, ein bwriad yw:

  • cyhoeddi detholiad o fideos byr ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn codi ymwybyddiaeth a diddordeb yn y prosiect;
  • rhoi copïau o'r recordiadau llawn i Amgueddfa Llambed fel adnodd hanesyddol gwerthfawr; a
  • defnyddio'r deunydd a'r profiad i sicrhau partneriaethau, cyllid a rhoddion fydd yn galluogi'r prosiect i ddatblygu ymhellach.

Ein gobaith yw mai dim ond y cam cyntaf fydd hwn tuag at greu archif fyw o leisiau, straeon ac acenion Cymru.

Os hoffech gymryd rhan yn y penwythnos unigryw hwn, y gost yw £175, sy'n cynnwys dau noson o lety, prydau bwyd a'r holl weithgareddau. Mae blaendal o £75 (na ellir ei ad-dalu) yn ofynnol i gadw eich lle, gyda'r balans yn daladwy cyn y penwythnos.

Ar ôl archebu eich lle, cysylltwch â ni ar contactpaned@gmail.com

i roi gwybod pa rôl yr hoffech ei chyflawni yn ystod y penwythnos. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddiwallu eich dewis.