Diolch am ddangos diddordeb yn y “Penwythnos Cymry Bach y Byd “
1-3 Awst, 2025 [English below]
Ry’n ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i Geredigion yn 2025.
Plîs llenwch yr holiadur yn yr e-bost er mwyn cael mwy o wybodaeth am ddiddordebau’r plant ac anghenion deietegol. Bydd eich sylwadau yn cael eu hystyried wrth drefnu gweithgareddau’r penwythnos. Bydd amserlen yn cael ei anfon atoch yn agosach at yr amser.
Mwy o wybodaeth am y llety- Garth Newydd.
Nôl yn yr haf cafodd Garth Newydd ei wobrwyo gan gynllun Arfor fel y gofod mwyaf Cymraeg yn y byd!
Lleolir Garth Newydd ar Stryd y Bont yng nghanol tref Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion. Mae saith ystafell wely yn Garth Newydd. Mae 6 ohonyn nhw yn sylweddol eu maint.
Yn ystod y penwythnos bydd sefyllfa hunan arlwyo yn bodoli, bydd system o 3 teulu ar y tro yn cydgoginio a bwyta ar amser penodol. Bydd hwn yn rhan o’r hwyl o fyw’n Gymraeg dros y penwythnos.
Mae yna lolfa go fawr yn Garth Newydd er mwyn cael gemau a hwyl gyda’r nos. Byddwn yn trefnu noson o ganu hefyd i ddigwydd mewn lleoliad gwahanol.
Byddwn yn ymweld â llefydd yn ystod y penwythnos ond byddwn yn trip cadw’r mwyafrif o weithgareddau yn Llanbed.
Pwy ydw i?
Nia Llywelyn ydw i. R’on i’n athrawes cynradd ac asesydd gofal plant i Mudiad Meithrin. Yn fwy diweddar dw i wedi bod yn diwtor Cymraeg ac yn Swyddog cefnogi dysgwyr arlein gyda Say Something in Welsh.
Mae gen i flynyddoedd o brofiad yn rhedeg cyrsiau /gwyliau addysgiadol ac wedi bod yn cynnal Wythnosau Byw’n Gymraeg yn Llanbed ers dwy flynedd bellach. Rwy newydd sefydlu cwmni o’r enw Hwyliaith. Bydd pecyn adnodd i deuluoedd yn cael ei ryddhau yn gynnar yn 2025 ar wefan newydd Hwyliaith.
Edrychaf ymlaen i glywed wrthoch chi
[mwy o wybodaeth yn yr un Saesneg, isod]
Thank you for showing interest in the "Penwythnos Cymry bach y byd”
We look forward to welcoming you to Ceredigion in 2025.
Please fill in the questionnaire on the email to get more information about the children's interests and dietary needs. Your comments will be taken into account when organizing the weekend's activities. A timetable will be sent to you closer to the time.
More information about the accommodation - Garth Newydd.
Back in the summer Garth Newydd was awarded by the Arfor scheme as the most Welsh-speaking space in the world!
Garth Newydd is located on Bridge Street in the center of Lampeter town in Ceredigion.
There are seven bedrooms in Garth Newydd. 6 of them are substantial in size. During the weekend a self-catering system will exist, a system of 3 families at a time will cook together and eat at a specific time. This will be part of the fun of living in Welsh over the weekend.
There is a large lounge in Garth Newydd for games and fun in the evening. We will also arrange a night of singing to take place in a different location. We will visit places during the weekend but we will keep the majority of activities in Llanbed.
Who am I?
I'm Nia Llywelyn. I was a primary teacher and childcare assessor for Mudiad Meithrin. More recently I have been a Welsh tutor and Online Support Officer working for Say Something in Welsh.
I have years of experience running holiday / learning courses and have been hosting Live Welsh Weeks in Lampeter for two years now. I have just set up a company called Hwyliaith. A resource pack for families will be released in early 2025 on my new Hwyliaith website.
Cost
The cost of the weekend is £150 per adult with a cost of £75 for an extra adult staying. The cost for each child is £75. A deposit of £100 will be needed when you confirm the booking.
We will need a minimum of 5 families for the weekend to continue.
I look forward to hearing from you. It’s going to be a great opportunity and very exciting to meet other families from Ysgol Sadwrn.